Ymladdwr o Wyddel, Jim Driscoll
Yn un o fythau bocsio Jack Scarrott, mae'r arwr bocsio Cymreig, "Peerless" Jim Driscoll yn edrych yn fygythiol yn y cylch bocsio, wrth iddo eistedd yn ei gornel, gyda torf eiddgar o'i gwmpas.
I Jim Driscoll, roedd bocsio yn gyfle i ddianc rhag y tlodi y cafodd ei fagu ynddo pan oedd yn blentyn ifanc yn y Drenewydd. Dysgodd sut i focsio trwy ymladd mewn bythau bocsio fel un Jack Scarrott. Teithiodd ledled Prydain, yn cymryd rhan mewn gornestau mewn ffeiriau a charnifalau, gan ymladd unrhyw un a oedd yn meiddio mynd i mewn i’r cylch gydag ef.
Yn 1901, cymerodd Jim y naid i focsio proffesiynol o'r diwedd. Roedd ei record yn un i fod yn falch ohono. Enillodd deitlau Pwysau Plu Prydain a'r Gymanwlad, yn ogystal â'r wobr hynaf ym myd bocsio Prydain, sef gwregys enwog Lonsdale.
Daeth moment fwyaf gyrfa Jim yn 1910 pan gafodd ei gyfle i wynebu Pencampwr y Byd, Abe Attell yn America. Yn ôl y rheolau, bu'n rhaid i Jim guro Abe i ennill y teitl. Am ddeg rownd Jim oedd yr ymladdwr gorau, ond ni allai gael y dyrniad buddugol yr oedd ei angen arno i ddod â'r gwregys adref. Yn ddiweddarach, cynigiwyd ail-gyfle i Jim, ond gwrthododd. Roedd y bocsiwr caredig wedi addo ymladd mewn gornest elusennol yng Nghaerdydd i godi arian ar gyfer Cartref Amddifad Tŷ Nasareth. Dywedodd, "Dwi byth yn torri addewid"
Pan fu farw Jim Driscoll yn 1925 safodd dros 100,000 o bobl ar strydoedd Caerdydd ar gyfer ei angladd. Mae ei gerflun bellach yn sefyll yn falch y tu allan i Westy'r Radisson yng nghanol dinas Caerdydd. Yn ogystal â’i gofio fel chwedl bocsio go iawn, roedd hefyd yn ddyn y gwerin, nad oedd byth yn anghofio ei wreiddiau.

